HuwEVANSMai 7fed 2026
Yn dawel yng nghwmni ei deulu yn Ysbyty Glan Clwyd yn 94 mlwydd oed o Maes Tawel, Llanrwst gynt o Ty'n Twll, Pandy Tudur.
Mab y diweddar Edward ac Anne Evans, brawd hoff Eluned, Hilda, Leslie a'r ddiweddar Katie, David, Mair, Wil ac Esme, brawd yng nghyfraith hoffus ac ewythr annwyl i'w holl neiaint a nithoedd.
Gwasanaeth dydd Iau Mai 28ain, preifat i'r teulu yn unig ym Mynwent Newydd Pandy Tudur gyda gwasanaeth cyhoeddus o ddiolchgarwch yn dilyn yng Nghapel Pandy Tudur am 1.30 o'r gloch.
Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar os dymunir er cof tuag at gronfa cynnal adeiladau Capel Pandy Tudur.
trwy law
R.W. Roberts a'i Fab
Plas Tirion, Rhodfa Cinmel
Abergele LL22 7LW
Ffôn 01745 827777.
Keep me informed of updates